Mae ein rhandir wedi ei leoli mewn llecyn prydferth, heddychlon ac mae’n bosib cerdded yno mewn ychydig funudau o ganol Bangor. Mae gennym chwe gwely dyrchafedig a thwnnel plastig ble rydym yn tyfu amrywiaeth fawr o ffrwythau a llysiau. Rydym yn tyfu’n organig, ac yn cynnig llawer o gyfleoedd i rannu gwybodaeth a dysgu sgiliau newydd. Ar ben hynny cawn goginio a bwyta llawer o brydau ffres, organig wedi eu gwneud yn defnyddio’r hyn yr ydym wedi ei dyfu ein hunain.
Nod y prosiect hwn yw hyrwyddo adferiad unigol trwy gyfrwng gweithgareddau. I rai bydd hynny’n golygu torchi llewys, mynd yn fwd drostynt a theimlo’n dda oherwydd eu holl waith called. Gall y rhandir gynnig gweithgareddau gwerth chweil sy’n rhoi llawer o foddhad. I eraill, bod yn yr awyr agored, mewn awyrgylch heddychlon, wyrdd a chael bod yn rhan o fywyd cymdeithasol y rhandir yw’r hyn sy’n cynnal eu hadferiad.
Rydym yn rhoi blas ar sefydlogrwydd i bawb sy’n cymryd rhan. Byddwn yn y rhandir bob wythnos, mae digonedd o waith y mae angen ei wneud yno, a digonedd o gefnogaeth, digonedd o de, a bisgedi weithiau, a llawer o hwyl. Rydym eisiau i bobl deimlo eu bod yn rhan o rywbeth, rhywbeth y mae modd iddynt fod yn falch ohono. Ac yn rhyw ran o’r rhandir mae cyfraniad pawb yn cael ei groesawu a’i werthfawrogi.
Rydym yn estyn croeso cynnes i bawb.